Crynodeb o’r cwrs
Llwybr 3 –
Rhaglen amser llawn sy’n cynnig cynllun dysgu personol sy’n canolbwyntio ar sgiliau byw’n annibynnol, profiad gwaith ac sy’n mynd i’r afael â materion amgylcheddol gan ddefnyddio’r pedwar piler dysgu trwy ddilyn fframwaith RARPA:- Sgiliau Byw’n Annibynnol, Cyfranogiad Cymunedol, Sgiliau Personol a Chymdeithasol a Menter a Cyflogadwyedd. Mae llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol wedi’u gwreiddio i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen mewn addysg bellach neu ddod o hyd i gyflogaeth.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Derbynnir ar gwrs trwy broses ymgeisio a chyfweld y Coleg.
Mae angen i ddysgwyr allu dangos gallu i weithio o leiaf yn Mynediad 3 cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr foeseg waith gadarnhaol a dangos diddordeb mewn datblygu sgiliau.
Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr ar y cwrs hwn yn dewis datblygu eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth trwy gofrestru ar gyrsiau eraill mewn maes galwedigaethol penodol neu ar raglen Gateway ac mae un ohonynt yn rhaglen interniaeth â chymorth sy'n cynnig y cyfle i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gael cyflogaeth.
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwrs.