Mynediad i Ddiploma AU – Busnes a Gwasanaethau Ariannol (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Nod y cwrs Mynediad i Addysg Uwch – Busnes ac Gwasanaethau Ariannol yw paratoi dysgwyr i astudio Busnes neu Gyllid mewn Addysg Uwch. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Rheoli Twristiaeth Busnes (BTM).
Mae’n rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella’ch potensial cyflogaeth.
Gall dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol wneud cais; fodd bynnag, bydd angen asesiad sgiliau a chyfweliad i bennu addasrwydd ar gyfer y cwrs. Ni fydd angen i ddysgwyr â Mathemateg a Saesneg Iaith TGAU gradd C neu uwch ymgymryd â'r asesiad sgiliau ond byddant yn cael cyfweliad. Dylai fod gan ymgeiswyr agwedd gadarnhaol a dylent allu ymdopi'n dda â heriau a bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn aeddfed, a meddu ar dystiolaeth o brofiad bywyd
Mae cwblhau'r cwrs yn caniatau mynediad i amrywiaeth eang o raglenni gradd yn cynnwys Busnes, Twristiaeth, Cyllid a'r Gyfraith. Gellir hefyd defnyddio cwblhau'r cwrs Mynediad i Addysg Uwch fel tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ac i geisio cyfleoedd gyrfa newydd. Mynediad uniongyrchol i gyrsiau twristiaeth a busnes AU.
Cyflogir amrywiaeth o ddulliau rhyngweithiol dan arweiniad dysgwyr i sicrhau ysgogiad a datblygiad pob dysgwr. Cynhelir asesiadau gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu, gan gynnwys cyflwyniad, adroddiadau, traethodau, digwyddiadau a phrofion dosbarth.