Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma rhan-amser mewn Coginio Proffesiynol yn addas i unrhyw un sy’n gweithio fel cogydd yn y sector arlwyo a lletygarwch.
Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi chi fel dysgwr i ddod yn gogydd proffesiynol trwy gwblhau cymwysterau safon diwydiant; ennill gwybodaeth am amrywiaeth eang o sgiliau a phrosesau coginio ar lefel uwch.
Mae’r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio fel cogydd ers cryn amser ac eisoes â chymhwyster lefel 2 neu os oes gennych brofiad helaeth yn y diwydiant, ac efallai eich bod eisoes yn goruchwylio eraill neu’n rheoli adnoddau ac eisiau datblygu eich sgiliau ymhellach, efallai i weithio fel a uwch gogydd.
Cwrs 33 wythnos yw hwn, i’w gynnal ar ddydd Llun, 3:30-7: 30
NVQ Lefel 2 neu gyfwerth mewn Coginio Proffesiynol a gweithio yn y proffesiwn. Bydd profiadau personol hefyd yn cael eu hystyried.
Cefnogi dilyniant i rôl oruchwylio yn yr amgylchedd arlwyo proffesiynol neu symud ymlaen i rôl fedrus fwy datblygedig.
Amrywiaeth o unedau sy'n cynnwys paratoi a choginio ystod o seigiau cig, dofednod a physgod cymhleth, sawsiau a chawliau cymhleth. Paratoi a chyflwyno pwdin poeth ac oer. Byddwch hefyd yn ymdrin â diogelwch a hylendid cegin.
Rhoddir e-bortffolio i bob ymgeisydd; eu cyfrifoldeb nhw yw cadw'r holl dystiolaeth sy'n ofynnol i basio'r cwrs yn y llyfr log a hefyd sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru'n barhaus.
Asesir pob uned o dan amgylcheddau gwybodaeth ymarferol a addysgir, ac o dan binio, gan yr asesydd. Rhaid sicrhau holl feini prawf yr uned er mwyn cyflawni'r dyfarniad llawn.
Mae yna rai costau ychwanegol ar gyfer gwisgoedd ac offer bach