Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd wrth wraidd arferion ym maes Cerbydau Modur yn gyffredinol. Bydd myfyrwyr yn archwilio pob agwedd ar systemau mecanyddol a thrydanol a ddefnyddir fel arfer gyda cherbydau ysgafn. Bydd rhaid cyflawni saith arholiad cwestiynau dewis lluosog ar-lein i gwblhau’r cwrs (gan City & Guilds) sy’n cwmpasu gwybodaeth am bob math o gerbydau ysgafn. Bydd cwblhau’r arholiadau hyn yn llwyddiannus yn golygu y bydd gennych yr holl wybodaeth sylfaenol i gamu ymlaen i Brentisiaeth Fodern. Bydd rhaid cyflawni 3 aseiniad a thasgau ymarferol yn ein gweithdy ar flaen y gad.
Byddai cymwysterau TGAU Gradd C neu uwch yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol. Bydd profiad ymarferol yn cael ei ystyried hefyd. Rhaid i fyfyrwyr gyda llai na Gradd C fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU ochr yn ochr â’u rhaglen amser llawn.
Diploma Lefel 2 mewn Atgyweirio/Adfer Cerbydau ar ôl Damweiniau. Prentisiaeth mewn garej i gwblhau cynnwys NVQ y cymhwyster Lefel 2. Prentisiaeth Fodern. Diploma Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn. Prentisiaeth i gwblhau cynnwys NVQ y Brentisiaeth Fodern Lefel 3 i gyflawni tystysgrif gyflawn fel technegydd.
City & Guilds Diploma / Tystysgrif Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn