Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi’r offer a’r technegau i fyfyrwyr ddeall sut i gynllunio, cychwyn, ymchwilio, cyflawni a gwerthuso prosiect. Mae’n cefnogi datblygiad sgiliau allweddol megis cyfathrebu, trefnu, cynllunio, rheoli amser, myfyrio a datblygiad academaidd.

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio a datblygu eu creadigrwydd wrth ddethol ac ymchwilio i’r prosiect y maent yn ei ddewis o fewn technoleg Cerddoriaeth neu’r Cyfryngau Creadigol.