Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn gweddu i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’n rhan-amser er mwyn datblygu ystod eang o sgiliau lletygarwch, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi ichi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ddatblygu dealltwriaeth am reoli sefydliadau lletygarwch ac arlwyo’n fwy effeithiol. Mae modiwlau’n cynnwys Gwasanaethau Lletygarwch a Gwesteion, Hanfodion Marchnata, Hanfodion Cyfrifyddu, Rheoli Gwyliau, Confensiynau a Digwyddiadau, Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol, Darparu a Datblygu Personél, Rheoli ac Ymddygiad Sefydliadol, Rheoli Isadrannau Ystafelloedd, Cyflwyniad i Letygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau, Gweithrediadau Bwyd a Diod ar Waith, Dulliau Coginio Byd-eang, Rheoli Adnoddau Ffisegol a’u Cynaliadwyedd.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae'r meini prawf mynediad yn nodi cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais ar sail unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig cysylltwch â'n Tîm Derbyn. Cynnig nodweddiadol: 1 Safon Uwch â gradd C neu 2 Safon Uwch â gradd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster Lefel 3 BTEC a dau TGAU â Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Y llwybr datblygiad cydnabyddedig yw'r radd atodol BA (Anrh) mewn Rheoli Gwestai ac Arlwyo. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn disgyblaethau lletygarwch ac arlwyo, er enghraifft: cynllunio priodasau a gwleddau, rheolwr bwyd a diod, rheolwr bwyty, lletygarwch corfforaethol a rheolwr cynadleddau a gwleddau.
Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, aseiniadau, dadleuon, gwaith ymarferol ac arholiadau.