Mae’r cwrs Almaeneg Lefel UG / Lefel A yn gwrs amser llawn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus, effeithiol yn Almaeneg a dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Almaeneg. Bydd y cwrs hwn yn datblygu’ch iaith.
Bydd y cwrs yn meithrin diddordeb mewn dysgu iaith, a brwdfrydedd drosto, ac yn annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaeth o’r iaith mewn cyd-destun ehangach.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.
Mae angen o leiaf chwe chymhwyster TGAU Gradd C gan gynnwys Saesneg. Mae angen gradd B TGAU Saesneg Iaith. Mae TGAU Almaeneg gradd C yn ddymunol.
Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd i'r brifysgol neu'n dod o hyd i swydd. Almaeneg/Busnes/Y Gyfraith/Cyfrifyddu (mae llawer o fyfyrwyr yn astudio Almaeneg gyda phwnc arall).
Mae'r opsiynau gyrfaol yn niferus: addysgu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, bancio, yswiriant, cyfrifyddu, cyfreithiwr, TG, gwerthu.
.Y themâu UG yw bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy'n siarad Almaeneg ac yn deall y byd sy'n siarad Almaeneg.
Y themâu Safon Uwch yw amrywiaeth a gwahaniaeth a llunio'r Almaen fodern o 1989 ymlaen.
UG
Uned 1: Arholiad llafar (12-15 munud, 12% o'r cymhwyster).
Uned 2: Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb feirniadol yn ysgrifenedig (2 awr 30 munued, 28% o'r cymhwyster).
A2
Uned 3: Arholiad llafar am brosiect ymchwil annibynnol sy'n cynnwys cyflwyniad a sgwrs am y pwnc o ddewis (11-12 munud, 18% o'r cymhwyster).
Uned 4: Gwrando, darllen ac arholiad cyfieithu ysgrifenedig (1 awr 45 munud, 30% o'r cymhwyster).
Uned 5: Ymateb feirniadaol a dadansoddiadol yn ysgrifenedig (1 awr 30 munud, 12% o'r cymhwyster).
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r cwrs hwn