Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Hanes Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o lawer o wahanol ddigwyddiadau hanesyddol a chyfnodau hanes. Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).
Dyluniwyd y cwrs hwn i’ch helpu chi i ddeall gwerth ac arwyddocâd digwyddiadau’r byd yn y gorffennol. Yn y broses, byddwch chi’n ennill dealltwriaeth ddyfnach o amrywiaeth cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol ac ethnig. Byddwch yn ymdrin â Hanes Cymru a Lloegr, 1880-1980, yr Almaen, 1918-1945, UDA, 1890-1990.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.