Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddeall hanfodion iaith ar lefelau amrywiol. Gosodir iaith yn ei chyd-destunau cymdeithasol a byd-eang ehangach a bydd myfyrwyr yn bwrw golwg ar ystod eang o destunau o fywgraffiadau, gwaith ffuglen a ffeithiol, gweithiau ysgrifenedig ar gyfer plant a sgriptiau teledu.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.
Chwech TGAU â Gradd C neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg â Gradd B a Llenyddiaeth Saesneg â Gradd C. Mae Mathemateg Gradd C yn ddymunol.
Cyrsiau prifysgol: Llenyddiaeth Saesneg / Iaith ac Ysgrifennu Creadigol, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, y Gyfraith, Cymdeithaseg.
Yn ogystal, mae Safon Uwch mewn Iaith Saesneg yn gyfeiliant rhagorol i Safon Uwch mwy penodol fel y gwyddorau a'r celfyddydau. Dilyniant gyrfa: Newyddiaduraeth, athro / darlithydd, dehonglydd a gwleidyddiaeth.
UG
Uned 1: Archwilio Iaith: Mae’r uned hon yn annog dysgwyr i ymgysylltu â’r defnydd o iaith mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae’n rhoi iddynt y cyfle i gymhwyso’u sgiliau beirniadol a’u gwybodaeth am iaith.
Uned 2: Materion Iaith ac Ysgrifennu Gwreiddiol a Beirniadol: Mae’r uned hon yn annog dysgwyr i ymgysylltu â materion iaith ac i ddefnyddio iaith yn greadigol.
U2
Uned 3: Iaith dros Amser: Mae’r uned hon yn annog dysgwyr i ymgysylltu ag iaith ar hyd amser. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt gymhwyso’u sgiliau dadansoddi a’u gwybodaeth am newid mewn iaith.
Uned 4: Iaith Lafar ac Ail-gastio Creadigol: Mae’r uned hon yn annog dysgwyr i ymgysylltu ag iaith lafar a chynhyrchu darn gwreiddiol o waith ysgrifenedig. Mae wedi’i bwriadu i roi cyfleoedd iddynt gymhwyso’u sgiliau dadansoddi a chyfathrebu’n greadigol mewn gwahanol ffyrdd.
Uned 5: Iaith a Hunaniaeth: Mae'r uned hon yn rhoi cyfleoedd ar gyfer ymchwil iaith sy'n berthnasol yn bersonol. Fe'i cynlluniwyd i ennyn diddordeb dysgwyr yn y thema iaith a hunaniaeth.
Mae 5 uned dros ddwy flynedd, y mae pedair ohonynt yn cael eu hasesu trwy arholiad ac un ag asesiad ysgrifenedig. Mae Uned 2 ac Uned 4 yn cynnwys ffocws cryf ar ysgrifennu creadigol.
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r cwrs hwn