Crynodeb o’r cwrs
Mae astudio TGAU Bioleg yn rhoi’r sylfeini i chi ar gyfer deall y byd. Mae dealltwriaeth wyddonol yn newid ein bywydau ni ac mae’n hanfodol i ffyniant y byd yn y dyfodol. Dylai pob dysgwr ddysgu am yr agweddau hanfodol ar yr wybodaeth, y dulliau, y prosesau a’r defnydd o wyddoniaeth. Dylid eu helpu i werthfawrogi sut gellir disgrifio ffenomena cymhleth ac amrywiol byd natur o ran nifer bychan o syniadau allweddol sy’n berthnasol i’r gwyddoniaethau sy’n rhyng-gysylltiedig ac o ddefnydd cyffredinol. Mae dwy haen fynediad yn perthyn i’r cymhwyster hwn:
Haen Uwch – Graddau A* – D
Haen Sylfaen – Graddau C – G
Uned 1: CELLOEDD, SYSTEMAU ORGANAU ac ECOSYSTEMAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud
45% o’r cymhwyster
Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, cwestiynau strwythuredig, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb data gyda rhai wedi’u gosod mewn cyd-destun ymarferol. Asesiad haenog.
Uned 2: AMRYWIAD, HOMEOSTASIS a MICRO-ORGANEBAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud
45% o’r cymhwyster
Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, cwestiynau strwythuredig, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb data gyda rhai wedi’u gosod mewn cyd-destun ymarferol. Asesiad haenog.
Uned 3: ASESIAD YMARFEROL
10% o’r cymhwyster
Asesiad ymarferol a gynhelir yn y canolfannau, ond a gaiff ei farcio yn allanol gan CBAC. Bydd yn digwydd yn hanner cyntaf tymor y gwanwyn (Ionawr – Chwefror). Asesiad heb haenau.
Bydd y cwrs yn rhedeg yng Ngholeg Castell-nedd ar ddydd Llun, 4.30pm-7pm.
Bydd dosbarthiadau yn cychwyn yr wythnos yn dechrau 11 Medi 2023.
I gofrestru cliciwch ar ‘COFRESTRU NAWR’ ar yr ochr dde o dan y Coleg o’ch dewis.