Crynodeb o’r cwrs
• cymryd rhan weithredol yn y broses o astudio cerddoriaeth
• datblygu sgiliau perfformio yn unigol ac mewn grwpiau i gyfathrebu’n gerddorol gyda rhuglder a rheolaeth ar yr adnoddau a ddefnyddir
• datblygu sgiliau cyfansoddi i drefnu syniadau cerddorol a gwneud defnydd o adnoddau priodol
• adnabod cysylltiadau rhwng gweithgareddau integredig perfformio, cyfansoddi a gwerthuso a sut mae hyn yn llywio datblygiad cerddoriaeth
• ehangu profiad a diddordebau cerddorol, datblygu dychymyg a meithrin creadigrwydd
• datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyfathrebu’n effeithiol fel cerddorion
• datblygu ymwybyddiaeth o amrywiaeth o offerynnau, arddulliau a dulliau o berfformio a chyfansoddi
• datblygu ymwybyddiaeth o dechnolegau cerddoriaeth a’u defnydd wrth greu a chyflwyno cerddoriaeth
• adnabod genres, arddulliau a thraddodiadau cyferbyniol o gerddoriaeth, a datblygu peth ymwybyddiaeth o gronoleg gerddorol
• datblygu’n ddysgwyr effeithiol ac annibynnol gyda meddyliau chwilfrydig
• myfyrio ar eu cerddoriaeth eu hunain a cherddoriaeth eraill a’i gwerthuso
• ymgysylltu â threftadaeth amrywiol cerddoriaeth a’i gwerthfawrogi, er mwyn hyrwyddo datblygiad personol, cymdeithasol, deallusol a diwylliannol.