Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau – BA (Anrh) (Amser-Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn gweddu i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o sgiliau twristiaeth, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediad angenrheidiol i chi ddatblygu dealltwriaeth o reoli twristiaeth, busnes a digwyddiadau yn fwy effeithiol. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Rheoli Twristiaeth Busnes (BTM).
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r meini prawf mynediad yn nodweddiadol, ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais ar ei ben ei hun sy’n golygu y gallwn roi cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, prof l personol a phro ad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas a^’ch cynnig, cysylltwch a^’n Ti^m Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 1 Safon Uwch gradd C neu 2 Safon Uwch Gradd E neu brof l PP/PPP mewn cymhwyster Lefel 3 BTEC a 2 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Gallwch symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau twristiaeth ôl-raddedig, busnes a chysylltiadau â digwyddiadau. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau twristiaeth a digwyddiadau, er enghraifft: cynadledda a rheoli digwyddiadau, ymgynghoriaeth twristiaeth a chynllunio, gweithrediadau teithiau, y diwydiant cwmnïau hedfan, marchnata, lletygarwch, manwerthu a rheoli adnoddau dynol.
Bydd y rhaglen fel arfer yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial. Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau, gwaith ymarferol a gwaith cwrs wrth i chi symud ymlaen, gyda rhai modiwlau yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf yn defnyddio arholiadau fel rhan o'r asesiad.
Mae Modiwlau Blwyddyn 1 yn cynnwys: Marchnata, Ymddygiad Sefydliadol, Cyflwyniad i Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau. Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol, Arferion Gweithredol Digwyddiad a Chyrchfannau Twristiaeth a Digwyddiad.
Mae Modiwlau Blwyddyn 2 yn cynnwys: Gweithrediadau Teithiau Rhyngwladol, Rheoli Digwyddiadau Ymarferol, Rheoli Adnoddau Dynol Cyfoes mewn Cyd-destun, Twristiaeth Dywyll, Lleoli Gwaith ar gyfer Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau, Cynaliadwyedd Twristiaeth Ryngwladol.
Mae Modiwlau Blwyddyn 3 yn cynnwys: Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Cyrchfan, Datblygu Marchnadoedd Cilfach, Rheoli Digwyddiadau Strategol, Ymgynghoriaeth Rheoli a Newid Sefydliadol, Menter ac Entrepreneuriaeth ac Themâu Cyfoes mewn Twristiaeth, Digwyddiadau, Lletygarwch a'r Celfyddydau Coginiol.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau, gwaith ymarferol, arholiadau a gwaith cwrs wrth i chi symud ymlaen.
Ymweliadau rhyngwladol er mai nodwedd o'r cwrs yw'r £500 a roddir i fyfyrwyr ar gyfer ymweliad tramor mawr Blwyddyn 2. Teithio i'ch lleoliad gwaith ac oddi yno.