Tystysgrif Estynedig Genedlaethol UG / Safon Uwch mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol L3 Pearson BTEC (Llawn Amser/Rhan-Amser)
Crynodeb o’r cwrs
Ar gael hefyd fel opsiwn Rhan-Amser – dewiswch ‘Cliciwch yma i gysylltu â ni’ am ragor o wybodaeth.
Mae gan Dystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 lwybr cyffredinol gwyddoniaeth gymhwysol. Mae’r cwrs yn darparu pwyntiau UCAS sy’n cyfateb i un lefel A.
Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn eich arfogi ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a sylfaen wybodaeth wyddonol eang yn rhychwantu bioleg, cemeg a ffiseg. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr wneud cais i ystod eang o gyrsiau prifysgol (gweler isod am rai enghreifftiau).
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth ac sydd ag o leiaf pum TGAU gradd A-C, gan gynnwys mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.
Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys biocemegydd, radiolegydd, radiograffydd, awdiolegydd, cemegydd, biolegydd, parafeddyg, ceiropractydd, gofal iechyd, gwyddor fforensig
AS
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 50% o waith cwrs a 25% yn seiliedig ar arholiadau 25% yn waith cwrs wedi'i farcio'n allanol. Mae'r unedau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys: egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth, gweithdrefnau a thechnegau gwyddonol ymarferol, sgiliau ymchwilio gwyddoniaeth, ac un uned ddewisol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â rhaglen o aseiniadau trwy gydol y cwrs, asesir un uned trwy arholiadau allanol ac un gyda gwaith cwrs wedi'i farcio'n allanol. Bydd y rhain yn cynnwys asesiad o sgiliau ymarferol a'r gallu i weithio'n ddiogel. Mae'n hanfodol eich bod yn drefnus ac yn gallu bodloni terfynau amser.