Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr a hoffai ymuno â’r diwydiant awyr, ac mae hefyd yn llwybr rhagorol i lawer o rolau eraill yn y sector twristiaeth. Mae’n darparu profiad damcaniaethol ac ymarferol, a fydd yn cael ei asesu mewn amgylchedd gwaith. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd ag ymweliad gorfodol â maes awyr, lle byddant yn cwblhau hyfforddiant Criw Caban mewn amgylchedd go iawn. Mae hwn yn gyfle gwych i gael datblygiad proffesiynol ac asesiad.
Mae’r cwrs hefyd yn cael ei gyfoethogi trwy hyfforddiant ychwanegol i Gynrychiolwyr Teithio a Digwyddiadau, gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am feysydd cysylltiedig eraill o dwristiaeth a chael profiad o sut beth yw gweithio yn y diwydiant deinamig a phoblogaidd hwn.