Tystysgrif Level 4 mewn Therapi Tylinio Chwaraeon (Rhan-Amser)
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs yn adeiladu ar sgiliau a gyflwynwyd ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon ac yn datblygu technegau tylino chwaraeon datblygedig, gan gynnwys rhyddhau meinwe meddal, pwyntiau sbarduno, techneg niwrogyhyrol, tylino meinwe gyswllt a thechneg egni cyhyrau.
Bydd y cwrs hefyd yn arfogi dysgwyr â sgiliau asesu clinigol cymhleth, gan gwmpasu prif gymalau y corff. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cael yswiriant ac ymarfer gyda chlwb chwaraeon neu weithio gyda chleientiaid preifat.
Mae gan diwtor y cwrs flynyddoedd lawer o brofiad ym maes therapi chwaraeon gan gynnwys Gemau Olympaidd Llundain a Gemau’r Gymanwlad, wrth redeg clinig arbenigol llwyddiannus.
Pa ofynion mynediad sydd eu hangen arnaf?
- Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs yw Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Tylino Chwaraeon, neu gyfwerth.
Os ydw i'n ennill y cymhwyster, beth allaf i ei astudio nesaf?
- Mae nifer o fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn gwneud cais i'r brifysgol i astudio ar gwrs cysylltiedig, er enghraifft y BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon.
Os ydw i'n ennill y cymhwyster, ble alla’ i gael gwaith?
- Mae'n bosibl naill ai gweithio'n hunangyflogedig, er enghraifft mewn campfa breifat, neu fel rhan o dîm chwaraeon amlddisgyblaethol, fel Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Beth yw'r cyflog cyfartalog yn y diwydiant hwn?
- Gan weithio mewn swyddogaeth breifat, y cyfraddau triniaeth yr awr yw rhwng £30-£40. Fodd bynnag, mae'r cyflogau a gynigir gan dimau chwaraeon proffesiynol yn amrywio rhwng £25,000 a £45,000 y flwyddyn.
Pa sgiliau ychwanegol a fyddai o fudd imi pan fyddaf yn edrych am gyflogaeth?
- Os yw'r myfyriwr yn anelu at weithio gyda thîm chwaraeon proffesiynol, mae angen ystod o sgiliau ychwanegol: cyfrinachedd cleientiaid, y gallu i weithio oriau hyblyg, sylw i fanylion, a'r gallu i weithredu fel rhan o dîm amlddisgyblaeth. Os mai dewis y myfyriwr yw sefydlu clinig preifat a gweithio ar sail hunangyflogedig, bydd angen sgiliau ychwanegol fel llythrennedd digidol a'r gallu i adeiladu a rheoli sylfaen cleientiaid.
Pa mor hir yw'r cwrs?
- Mae'r cwrs yn rhedeg dros 34 wythnos, fel arfer rhwng mis Medi a mis Mehefin.
Sawl awr yr wythnos y bydd yn rhaid i mi fod yn bresennol?
- Mae presenoldeb yn 3 awr rhwng 6-9pm ar un noson yr wythnos.
A oes rhaid fy mod yn gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd?
- Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs eisoes yn gweithio yn y diwydiant ar sail hunangyflogedig neu'n cael eu cyflogi fel rhan o dîm chwaraeon proffesiynol.
A oes angen unrhyw offer ychwanegol arnaf?
- Argymhellir sawl gwerslyfr arbenigol, y darperir rhestr ohonynt yn ystod y cyfnod cynefino, ond nid yw'n orfodol prynu'r rhain.
A fyddaf yn sefyll arholiad? Ac os felly, pryd?
- Nid oes unrhyw arholiadau ar gyfer y cwrs hwn.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Mae'r cymhwyster yn cynnwys tair uned, a rhaid eu cwblhau'n llwyddiannus i ennill y cymhwyster llawn. Mae'r cwrs yn cynnwys cyfuniad o lyfrau gwaith ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol.
Oes rhaid i mi dalu'r cyfan ar unwaith?
- Gall myfyrwyr dalu'n llawn am y cwrs; fodd bynnag, mae'n bosibl lledaenu cost y cwrs dros randaliadau. Bydd cyllid myfyrwyr yn gallu darparu manylion am y trefniadau cyfredol.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Mae'n ofynnol i fyfyrwyr brynu cit coleg (crys polo a throwsus tracwisg). Trefnir hyn yn ystod y cyfnod cynefino a'r gost gyfredol yw £40.