Ymarferion Gofal – Tystysgrif mewn Addysg Uwch (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae cefnogi anghenion iechyd, cymdeithasol a gofal unigolion yn agwedd hanfodol ar alluogi pobl i gael bywyd pleserus a boddhaus. Gall gweithio gyda phobl i wella eu hiechyd, trwy addysg, cymorth, triniaeth ac arweiniad proffesiynol mewn unrhyw leoliad wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl pan fydd ei angen arnynt, beth bynnag fo’u hoedran.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r theori sy’n sail i ymddygiad iechyd unigol a fydd yn gwella ansawdd y cymorth a ddarperir gennych ar gyfer cleientiaid sy’n cyrchu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Byddwch yn astudio gyda phobl debyg â gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws ystod o rolau proffesiynol cysylltiedig. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu a’i leoli yn eich cymuned eich hun. Mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd ag ymarfer, polisïau a deddfwriaeth gyfredol iechyd a gofal cymdeithasol. Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl ac eisiau chwarae rhan bwysig yn y dull esblygol o ddarparu iechyd a gofal, yna mae’n gweddu’n ddelfrydol i chi.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant
Croesewir ceisiadau gan ddysgwyr aeddfed nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, ond a all ddangos profiad perthnasol a/neu gyflawniad cymwysterau proffesiynol mewn cyflogaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyfle i weithio o fewn ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys symud ymlaen i lwybrau gradd proffesiynol fel Nyrsio (Oedolion, Iechyd Meddwl, Paediatreg), Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Therapi Galwedigaethol neu alluogi cyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel rheoli prosiectau yn y sector gwirfoddol, Gofal Cartref, Gofal Preswyl, Byw'n Annibynnol â Chymorth, Gwaith Prawf, yr Heddlu.
Mae egwyddorion gofal a hyrwyddo pob agwedd ar iechyd yn dylanwadu'n gryf ar gynnwys y cwricwlwm er mwyn mynd i'r afael â phryderon iechyd cyfredol.
Gallai'r modiwlau gynnwys:
- Sgiliau Astudio
- Cyfathrebu a Rhyngweithio Rhyngbersonol
- Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Anatomeg a Ffisioleg
- Ymarfer Gofal
- Materion Cyfoes ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Byddwch yn dysgu trwy wersi a addysgir / dosbarthiadau ymarferol / astudio hunangyfeiriedig / seminarau / dysgu cyfunol y cysyniadau sylfaenol o ymarfer gofal sy'n hanfodol i'r cwrs.
Gwneir asesiadau trwy asesiad parhaus / gwaith cwrs / aseiniadau ysgrifenedig / arholiadau. Byddwch yn cael cymorth i fodloni gofynion gwaith wedi'i asesu gan diwtoriaid modiwlau, tiwtor personol, hyfforddwr astudio AU a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ehangach.
Mae'r cwrs hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr gaffael tystysgrif DBS, a rhaid talu amdani ei hun. Cost teithio i'ch lleoliad gwaith ac oddi yno.