Cymerwch gip ar ein Hwb Academi 6ed Dosbarth newydd!
Mae’r bloc A / B yng Ngholeg Castell-nedd, sydd ar hyn o bryd yn gartref i’r adrannau mathemateg a gwyddoniaeth wedi cael ei uwchraddio’n llwyr.
Mae’r prosiect adnewyddu tair stori yn cynnwys estyniad gwydrog newydd ac ail-addurno’r adeilad presennol.
Mae’r tu mewn wedi trawsnewid yn ganolbwynt chweched dosbarth cynllun agored newydd lle gall myfyrwyr a staff weithio neu ymlacio.
At hynny, mae gan y cyfleuster modern iawn allu sgrin gyffwrdd, Wi-Fi am ddim a phwyntiau gwefru.
Yn ogystal, mae siop Goffi Starbucks, cyfleusterau arlwyo, a lifft i ganiatáu mynediad i’r lloriau uchaf.
O ganlyniad, bydd ein gwaith adnewyddu cynaliadwy yn gwella effeithlonrwydd ynni yn unol ag ymrwymiad y Coleg i wella’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau CO2.