#GraddauArGarregEichDrws

Ymunwch â ni yn ein digwyddiadau agored, lle gallwch ddarganfod mwy am ein holl Gyrsiau ar lefel Prifysgol neu Brentisiaethau Gradd, y broses ymgeisio a phopeth y mae angen i chi ei wybod am astudio gyda ni.

Digwyddiadau Agored i ddod

Cliciwch yma i weld ein Digwyddiadau Agored cyffredinol sydd ar ddod

Cofiwch wirio lle mae’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn cael ei gynnig cyn i chi fynychu.

Chwiliwch ein cyrsiau

Rydym wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri, fel: Prifysgol Cymruy Drindod Dewi Sant, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Pearson.

Logos for University of Wales Trinity St David, University of South Wales, Wrexham University, Pearson with white background.

Cynlluniwyd ein holl Gyrsiau Addysg Uwch gyda swyddi a gyrfaoedd yn y dyfodol mewn cof ac rydym yn ymdrechu i roi i’n graddedigion y profiad a’r wybodaeth orau i’w paratoi ar gyfer byd gwaith.

Mae ein Cyrsiau Addysg Uwch yn:

Lleol

Nid oes angen i chi symud oddi cartref i astudio, gan ei gwneud hi’n haws cyd-fynd â’ch gwaith a’ch bywyd teuluol.

Fforddiadwy

Llai o gostau teithio a dim angen symud oddi cartref. Gall hyn gadw’ch costau byw i lawr i lefel y gellir ei rheoli.

Hyblyg

Yn aml mae gan ein cyrsiau prifysgol lwybrau astudio amser llawn a rhan-amser ar gael. Rydyn ni’n ceisio trefnu’r amserlen fel y gallwch chi weithio o hyd neu gyflawni ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio.

Cefnogol

Mae maint dosbarthiadau yn gyffredinol yn llai nag yn y brifysgol, gan eich galluogi i gael mwy o sylw ac arweiniad unigol gan eich tiwtor. Mae ein Hyfforddwr Astudio AU pwrpasol hefyd ar gael i’ch cefnogi trwy gydol eich cwrs.

Meddwl Ymlaen

Mae ein hadnoddau cymorth i raddedigion yn darparu sgiliau cyfweld, bywyd a chyflogadwyedd i chi, gan eich helpu i adeiladu eich dyfodol ar ôl graddio. Gallwch hefyd ymuno â’n Cyn-fyfyrwyr; cymuned fyd-eang sefydledig o gyn-fyfyrwyr, rhwydwaith parod o gysylltiadau a ffrindiau gydol oes.

Cewch glywed gan ein myfyriwr

Peidiwch â gadael i gyllid fod yn rhwystr i addysg. Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru helpu!

Cael Gwybod Rhagor

TAR / TBA

Ydych chi’n meddwl am newid gyrfa? Ydych chi eisiau dysgu? Efallai bod gennych chi flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant ac eisiau rhannu eich gwybodaeth gyda’r genhedlaeth nesaf?

Yn ein Noson Agored, gallwch ddarganfod popeth am addysgu mewn Addysg Bellach a sut y gallwch chi gychwyn ar eich gyrfa addysgu gyda chymhwyster TBAR neu TBA.

Os ydych wedi graddio mewn pwnc perthnasol ac yn edrych i ennill cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol i weithio mewn addysg bellach, yna mae’r Dystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg TBAR ar eich cyfer chi.

Cael Gwybod Rhagor

Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg TBA ar eich cyfer chi os oes gennych gymhwyster pwnc (Lefel 3 neu’n uwch) ac yn edrych i ennill cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol i weithio mewn addysg bellach.

Cael Gwybod Rhagor

Cyrsiau Cyn-Fynediad

Yn ogystal, mae gennym ystod o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, wedi’u cynllunio i baratoi dysgwyr heb gymwysterau traddodiadol ar gyfer astudio yn y Brifysgol.

Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnig cwrs Cyn-Fynediad a nifer o gyrsiau Mynediad mewn, Gofal Iechyd (llwybrau i Nyrsio a Bydwreigiaeth) a’r Dyniaethau (llwybrau i mewn i Addysgu).