Croeso i’n tudalen Cymuned Dysgu Oedolion yng Ngrŵp Colegau NPTC. Rydym yn falch iawn i weithio gyda’n partneriaid i gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru, gan ddarparu dysgu yng nghalon eich cymuned. Mae cyrsiau dysgu oedolion yn cynnig y cyfle i archwilio diddordeb, sgil, hobi a datblygu sgiliau arbenigol y gallwch eu defnyddio mewn busnes. Maent yn ffordd o gwrdd â phobl a mwynhau’r broses ddysgu.
Edrychwch ar ein Gwefan Dysgu Cymunedol i Oedolion newydd trwy glicio ar y ddolen isod.
I gael mwy o fanylion am gyrsiau yn eich cymuned, chwiliwch “Dysgu Cymunedol i Oedolion” ar-lein neu ewch i wefannau ein partneriaid drwy glicio ar y delweddau isod.
Cwrdd â’n Dysgwyr sy’n Oedolion
Dyfyniadau Cyn-fyfyrwyr Cymunedol Dysgu Oedolion
Rachel Howe – Dysgwr sy’n Oedolion
“Heb i mi gofrestru ar y cwrs Saesneg a Mathemateg yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ni fyddwn wedi gallu dechrau hyfforddi fy swydd ddelfrydol, o fewn y gwasanaeth ambiwlans. Fy unig ofid oedd na chymerais y cam i wneud hyn yn gynharach. Fodd bynnag, mae popeth yn digwydd am reswm a chredaf yn gryf, trwy ddychwelyd i addysg fel oedolyn, fod gen i sgiliau bywyd a phrofiadau a ddaeth gyda mi yn fy helpu i fod yn llwyddiannus. Ar ôl ennill cymwysterau SHC mewn Saesneg a Mathemateg rydw i wedi mynd ymlaen i wneud y swydd roeddwn i wir ei heisiau. Fy nghyngor i eraill yw – nid yw byth yn rhy hwyr!”