Centerprise yw canolfan menter myfyrwyr, cyflogadwyedd a chymorth busnes Grŵp Colegau NPTC.

Mae’r ganolfan yn darparu amgylchedd proffesiynol, cefnogol i unigolion sy’n sefydlu eu busnes eu hunain ac mae’n cynnwys mynediad at ystod o gyfleusterau a chefnogaeth AM DDIM gan gynnwys:

  • Llefydd mewn swyddfa â gwasanaeth
  • Cyfleusterau Desg Boeth ar gyfer y rheiny nad oes angen bod mewn swyddfa ar sail amser llawn
  • Cyfeiriad busnes proffesiynol
  • Defnydd o TGCh gan gynnwys ffôn, cyfleusterau argraffu a chopïo
  • Derbynnydd i ateb galwadau a chyfarch eich cleientiaid
  • Cymorth a chyfarwyddyd busnes
  • Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol
  • Ystafelloedd cyfarfod gweithredol
  • Mynediad i ystafelloedd hyfforddi llawn cyfarpar
  • Cyfleoedd i rwydweithio a gweithio’n gydweithrediadol
  • Mynediad i gyfleusterau reprograffig
  • Parcio am ddim

Oriau agor a Lleoliad

Mae’r ganolfan ym Mloc A / B Bloc yng Ngholeg Castell-nedd
Dyma’r oriau agor ar hyn o bryd: Llun – Gwener 08: 30-17:00

PWY SY’N GYMWYS?

Os ydych yn fyfyriwr presennol neu fyfyriwr blaenorol Grŵp Colegau NPTC byddwch yn gymwys i dderbyn cefnogaeth AM DDIM gan Centerprise. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion busnes.

Os nad ydych yn barod i ddechrau ar eich pen eich hunan eto, gall Centerprise eich helpu i ddatblygu sgiliau a gwneud i bethau ddigwydd!

Mae’r sgiliau sydd gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn sgiliau sy’n bwysig i bawb, p’un a ydych yn meddwl am weithio ar eich pen eich hunan neu ddod yn weithiwr cyflogedig – y gallu i feddwl am syniadau ac i feddwl yn greadigol am sefyllfaoedd gwahanol; meddu ar yr hyder i roi cynnig ar bethau a’r penderfyniad i wneud i bethau ddigwydd; sgiliau cyfathrebu gwell a’r gallu i weithio gyda phobl eraill ac yn bwysicaf oll agwedd gadarnhaol ‘gallu gwneud’. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau y gallwch eu datblygu a bydd y profiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth yn eich helpu i wneud hyn.

Barod ym yrfa

Mae Barod ym yrfa yn Centerprise yn rhaglen gyflogadwyedd sy’n cefnogi myfyrwyr gyda:• Dod o hyd i swydd ran-amser

• Ysgrifennu CV

• Ffurflenni cais

• Cyfweliadau

• Profiad Gwaith

Oes ydych yn chwilio am swydd, eisiau gwella eich sgiliau, neu’n edrych i symud ymlaen gyda syniad busnes, cysylltwch â ni yn centerprise@nptcgroup.ac.uk

Manylion Cyswllt:

Centerprise,
Grŵp Colegau NPTC, Heol Dwr-y-felin,
Castell-nedd
SA10 7RF

E-bost: centerprise@nptcgroup.ac.uk

Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Centerprise

Facebook Logo

Twitter Logo

Career Ready

Facebook Logo

Twitter Logo

Centerprise Annual Impact Review 2023 2024 in Welsh with sections: Meet the team, Our Entrepreneurship Commitment, Key Achievements, What students say, what staff say and Videos.

Clywch Gan Ein Cwsmeriaid