Tystysgrifau Arholiad

  • Efallai y bydd canlyniadau cyrsiau galwedigaethol ar gael pan fyddwch yn dal yn y coleg, ond gall hyn amrywio o gwrs i gwrs. Siaradwch â’ch arweinydd rhaglen am ganlyniadau cyrsiau galwedigaethol.
  • Mae tystysgrifau ar gyfer pynciau Lefel AS, Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru a TGAU ar gael i’w casglu o’r dderbynfa ar y campws lle buoch yn astudio o fis Tachwedd ymlaen. Dylai’r rhan fwyaf o gyrff dyfarnu eraill fod ar gael o ddiwedd mis Hydref.
  • Cyfrifoldeb y myfyriwr yw holi swyddfa’r campws/swyddog arholiadau os yw tystysgrifau wedi cyrraedd. Nid ydym yn anfon llythyr yn cadarnhau bod tystysgrifau wedi cyrraedd.
  • Pan fyddwch yn dod i gasglu eich tystysgrifau bydd angen i chi ddod â dull adnabod. Gallai hyn fod yn gerdyn banc, pasbort neu drwydded yrru.
  • Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i rywun arall gasglu eich tystysgrifau ar eich rhan. Bydd angen i’r sawl sy’n casglu’r tystysgrifau ddod â llythyr oddi wrthych yn nodi eich bod wedi rhoi caniatâd iddynt gasglu’r tystysgrifau. Bydd angen iddynt hefyd ddod â phrawf adnabod, gallai hyn fod yn gerdyn banc, pasbort neu drwydded yrru. Cysylltwch â’n hadran arholiadau i’w hysbysu os ydych yn dymuno i rywun gasglu eich tystysgrifau ar eich rhan: exams@nptcgroup.ac.uk

Sylwch mai dim ond am hyd at dair blynedd ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau y mae’r Coleg yn cadw tystysgrifau, ac ar ôl hynny, bydd y tystysgrifau’n cael eu dinistrio a bydd angen i chi gysylltu â’r bwrdd arholi unigol (CBAC, AQA ac ati). Gall amnewid tystysgrifau gostio hyd at £60 y dystysgrif ynghyd â ffi weinyddol a ffi postio.

Ar gyfer myfyrwyr a astudiodd yn Academi Chwaraeon Llandarcy, Coleg Pontardawe neu Ganolfan Adeiladu Abertawe, bydd angen i chi fynd i Goleg Castell-nedd i gasglu eich tystysgrifau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, e-bostiwch exams@nptcgroup.ac.uk