Cwestiynau Cyffredin

Beth i’w wneud os bydd tywydd garw yn ystod cyfnod yr arholiadau

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, ac eithrio pan fydd y Coleg ar gau yn swyddogol, disgwylir i bob arholiad barhau fel y trefnwyd. Os bydd tywydd garw, dylid monitro rhagolygon y tywydd, gwefan y coleg a twitter, a fydd fel arfer yn cael eu diweddaru gyda gwybodaeth.

Ble i gael mynediad at amserlen yr arholiadau?

Gellir dod o hyd i Amserlenni Arholiadau ar gyfer pob corff dyfarnu ar eu gwefan.

O ddechrau mis Ebrill gellir gweld amserlenni personol myfyrwyr ar yr hyb Dysgwyr. Dylid gwirio’r rhain i sicrhau bod manylion personol yn gywir a bod yr arholiadau cywir yn cael eu rhestru. Dylid e-bostio ymholiadau i exams@nptcgroup.ac.uk

Pennir dyddiadau ac amseroedd arholiadau gan y cyrff dyfarnu, ac ni ellir newid y rhain. Ni chaiff myfyrwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad a amserlennwyd eistedd ar ddiwrnod neu amser arall.

Ble gellir casglu tystysgrifau?

Rhoddir tystysgrifau cymwysterau tua 8 wythnos ar ôl y canlyniadau a byddant ar gael i’w CASGLU yn y Brif Dderbynfa ar y campws lle bu’r myfyriwr yn astudio. Nid ydym yn postio tystysgrifau.

Cedwir tystysgrifau yn y coleg am dair blynedd ar ôl cwblhau’r cwrs ac yna cânt eu dinistrio.

Sut mae gofyn am dystysgrif amnewid?

Ffoniwch y Corff Dyfarnu y gwnaethoch sefyll yr arholiad gydag ef e.e. City & Guilds, CBAC. Os ydych yn ansicr, e-bostiwch y Tîm Arholiadau – exams@nptcgroup.ac.uk

Bydd cyrff dyfarnu’n codi tâl am dystysgrifau newydd.

Beth i’w wneud os yw myfyriwr yn hwyr ar gyfer arholiad?

Mae arholiadau’r bore yn cychwyn am 9:30yb. Caniateir i’r myfyriwr fynd i mewn i leoliad yr arholiad os bydd yn cyrraedd erbyn 10:00am.

Mae arholiadau prynhawn yn dechrau am 13:30pm. Caniateir i fyfyrwyr eistedd os ydynt yn cyrraedd cyn 2:30pm.

Dylai myfyrwyr sy’n meddwl eu bod yn mynd i fod yn hwyr, gysylltu â derbynfa’r coleg ar y safle lle maent yn sefyll yr arholiad neu’r adran arholiadau cyn gynted â phosibl ar ddiwrnod yr arholiad.

Lleoliadau arholiadau

Mae arholiadau’n aml yn cael eu rhannu ar draws sawl lleoliad a bydd gwybodaeth yn cael ei harddangos ar yr hysbysfyrddau arholiadau ym mhrif dderbynfa’r campws lle cynhelir yr arholiad.