Prentisiaeth mewn Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 3)

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster yn cyd-fynd â Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gyda ffocws ymarferol penodol ar blant o dan 8 oed wedi’i gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant hyd at 18 oed.

Yn ystod y rhaglen bydd prentisiaid yn:
  • Deall, a chymhwyso’n ymarferol, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
  • Deall, a chymhwyso, yn ymarferol, ymagweddau plentyn-ganolog at ofal, chwarae a dysgu;
  • Hyrwyddo a chefnogi datblygiad plant trwy eu hymarfer eu hunain.
  • Ymdrin â pholisïau allweddol o fewn y sector a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau.
  • Gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.
  • Myfyrio ar arfer i wella’n barhaus.
  • Cymhwyso ystod o dechnegau datrys problemau.
  • Defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl.
Hyd

19 mis.

Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Craidd; Bydd yr unedau’n cynnwys Hyrwyddo Ymarfer Craidd mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Hybu Chwarae, Dysgu, Twf a Datblygiad, Hybu Maeth a Hydradiad yn y Blynyddoedd Cynnar, Ymateb i Salwch Plentyndod, Heintiad/Heintiau, Clefydau ac Imiwneiddio a llawer mwy.
  • Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – Ymarfer
  • Bydd yr unedau’n cynnwys: Egwyddorion a Gwerthoedd, Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad. Ymarfer Proffesiynol, Diogelu Plant, Iechyd a Diogelwch, Datblygiad Plant, Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, Cefnogi Plant (Maeth a Hydradiad).
  • Sgiliau Cymhwyso Rhif SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
  • Sgiliau Cyfathrebu SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
Beth fydd y cymhwyster yn arwain ato?

Mae cwblhau cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant Lefel 3 cymwysedig heb oruchwyliaeth ac, mewn llawer o leoliadau gwaith, mewn rôl arwain. Mae’r cymhwyster yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i: Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Gradd Sylfaen yn y Blynyddoedd Cynnar neu gymhwyster tebyg.