Prentisiaeth Sylfaen mewn Aml-Fasnach (Lefel 2)

Hyd

Hyd at 22 mis

Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:

  • Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu; (eithriadau yn berthnasol) Gall unedau gynnwys: Cydymffurfio ag Iechyd Cyffredinol, Diogelwch a Lles yn y Gweithle, Cydymffurfio ag Arferion Gwaith Cynhyrchiol, Symud, Trin a Storio Adnoddau, Darparu Gwasanaeth Cwsmer Dibynadwy a llawer mwy.
  • Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw ac NVQ mewn Gweithrediadau Atgyweirio ac Adnewyddu Aml-Fasnach mewn Cynnal a Chadw Adeiladau; Gall yr unedau gynnwys: Gwneud Atgyweiriadau Adeiladau ar Raddfa Fach, Gwneud Gwaith Peintio ac Addurno ar Raddfa Fach, Atgyweiriadau Plastro ar Raddfa Fach, Atgyweiriadau Plymio ar Raddfa Fach, Gwneud Atgyweiriadau Gwaith Saer a llawer mwy.
  • Sgiliau Cymhwyso Rhif SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
  • Sgiliau Cyfathrebu SHC.
Beth fydd y cymhwyster yn arwain ato?

Ar ôl cwblhau pob lefel gall dysgwyr wneud cais am y cerdyn CSCS a symud ymlaen i gymhwyster adeiladu.