Hyd
19 Mis.
Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:
C & G Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster Craidd
Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sylfaenol o’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae’n adlewyrchu ystod o wahanol rolau ac oedrannau.
Mae cwblhau’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i:
- Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
- Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ffyrdd o weithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant,
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n llywio arfer effeithiol o fewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant, a meddu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd i gefnogi dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae’r unedau’n cynnwys: Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed), Iechyd, Lles, Dysgu a Datblygiad, Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Diogelu Plant, Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
- C & G Lefel 2 mewn Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae’r unedau’n cynnwys: Cefnogi Ymarfer Craidd Mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Cefnogi Chwarae, Dysgu, Twf a Datblygiad, Cefnogi Maeth a Hydradiad yn y Blynyddoedd Cynnar, Ymateb i Arwyddion Salwch Posibl a Heintiad/Haint a llawer mwy.
- Sgiliau Cymhwyso Rhif SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
- Sgiliau Cyfathrebu SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).