Rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog (Coleg Castell-nedd)

Darganfod mwy am ein Rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog

OXBONT

Rydym yn annog myfyrwyr i anelu’n uchel ac mae’r rhai sy’n dyheu am Rydychen neu Gaergrawnt yn cael cymorth a chefnogaeth gan diwtoriaid Oxbridge ac uwch staff y Coleg. Mae ymweliadau penodol ag Oxbridge, gan gynnwys arhosiad dros nos, wedi’u trefnu i fyfyrwyr sy’n bwriadu gwneud cais, lle mae Tiwtoriaid Derbyn y Brifysgol wedi rhoi cyngor ar y broses ymgeisio.