System Tiwtorial y Coleg

Neilltuir Tiwtor Personol neu Gydlynydd Cwrs i bob myfyriwr amser llawn sy’n gyfrifol am sicrhau bod ei grŵp o fyfyrwyr yn cael y budd mwyaf o’u cwrs astudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Yn ystod sesiynau tiwtorial cynlluniedig, mae tiwtoriaid a myfyrwyr yn trafod cynnydd, yn gosod targedau ac yn creu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwelliant. Mae’r broses hon yn cynnwys llunio Cynllun Dysgu Unigol. Mae Cynlluniau Dysgu Unigol yn ymdrin â materion gyrfa ac addysg uwch ynghyd ag amrywiol agweddau ar addysg bersonol a chymdeithasol.

Cefnogir tiwtoriaid gan Wasanaethau Myfyrwyr, Gyrfa Cymru a Chwnselwyr y Coleg.