Tîm Diogelu

Mae’r tîm diogelu yn gweithio o dan ganllawiau Polisi Diogelu’r Coleg, yn ogystal â deddfwriaeth mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu.

Mae tîm o staff hyfforddedig yn cynnig cymorth ar unwaith i fyfyrwyr mewn argyfwng ar draws y Grŵp. Er bod datgeliadau yn gyfrinachol, lle mae risg o niwed, gall diogelwyr weithio ochr yn ochr â staff, Cwnselwyr y Coleg, Swyddogion Llesiant yn ogystal â Meddygon Teulu, yr Heddlu a Gweithwyr Cymdeithasol i sicrhau bod pob myfyriwr yn aros yn ddiogel.

I gysylltu â’r tîm Diogelu, e-bostiwch: protectioning@nptcgroup.ac.uk