Pam Dewis Grŵp o Golegau NPTC

Badge icons with A Level stats icons in Welsh.

Badge icons with Vocational stats icons in Welsh.

Nosweithiau Agored

Mae ein nosweithiau agored yn gyfle i ddarpar fyfyrwyr a rhieni brofi’r Coleg a’i gyfleusterau a darganfod mwy am yr amrywiaeth o bynciau a chyrsiau sydd gennym ar gael.
Bydd myfyrwyr a rhieni yn gallu gweld y profiad addysgol y mae Grŵp Colegau NPTC yn ei gynnig, a chael y cyfle i ‘roi cynnig’ ar bynciau neu grefftau penodol. Bydd gennych hefyd y cyfle i ddarganfod bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gweld yr hyn y mae’r Coleg yn ei gynnig o ran gweithgareddau allgyrsiol.

Darllen rhagor o wybodaeth am ddyddiadau sydd ar y gweill yma

Absenoldeb Myfyrwyr

Rhowch wybod am absenoldeb yma

Llawlyfr Myfyrwyr

Cliciwch yma i ddarllen ein Llawlyfr Myfyrwyr

Dyddiadau Tymhorau

Cliciwch yma a ddyffiadau’r tymhorau

Disgyblu Myfyrwyr

Rydym am i bawb fwynhau eu hamser yn y Coleg ac rydym yn disgwyl ymddygiad da gan ein holl fyfyrwyr, gan gynnwys dangos parch at eraill.

Mae’r Cod Ymddygiad Myfyriwr yn esbonio ein rheoliadau a’n rheolau allweddol.

Dylai myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r Polisi hwn sydd ar gael ar Moodle.

Mae gennym Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr ffurfiol. Bydd staff yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw faterion o bryder. Fel arfer mae gan fyfyrwyr hawl i fynd drwy bob cam o’r Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr (heblaw am droseddau difrifol). Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan mae natur yr ymddygiad yn arwain at rybudd ysgrifenedig neu waharddiad hyd yn oed os mai dyma’r tro cyntaf y mae ymddygiad o’r fath wedi digwydd.

Ceir 4 cam i’r weithdrefn ddisgyblu myfyrwyr fel arfer:

  1. Rhybudd llafar
  2. Rhybudd ysgrifenedig
  3. Cam 3 – Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol
  4. Cam 4 – Camymddwyn Difrifol yn Arwain at Waharddiad

Lle y bo’n briodol, byddwn yn eich cynnwys yn y Broses Ddisgyblu; Bydd hyn fel arfer ynghylch sefyllfaoedd lle y gwelir problemau ymddygiadol sy’n digwydd yn aml a/neu ddigwyddiadau difrifol.

Cyfrifoldeb y coleg i roi gwybodaeth i rieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr

Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data, mae’r Coleg wedi’i gyfyngu o ran pryd y gall rannu data: Dim ond pan fydd y myfyriwr o dan 18 oed a chi yw eu cyswllt brys ar ein system neu pan fydd y myfyriwr dros 18 oed y gellir rhannu data â thrydydd parti. ac wedi rhoi caniatâd i’w ddata gael ei rannu â chyswllt a enwir.

Cliciwch yma am fanylion cyswllt y coleg

Unrhyw Gwestiwn?

Darllen ein Cwestiynau Cyffredin yma