Rydym hefyd yn cynnig darpariaeth yn ein dau leoliad yng nghanol y dref, Y CWTCH (y Ganolfan Groeso gynt) ac Y Gaer (Amgueddfa Aberhonddu).
Y CWTCH yn lleoliad cymunedol sy’n cynnig cyfrifiadura o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a’r cyhoedd gyda chysylltiad rhyngrwyd tra-chyflym; cyfleusterau fideo-gynadledda; ardaloedd gweithio hyblyg a mannau addysgu.
Mae ein cyrsiau Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn cael eu cyflwyno yn y CWTCH.
Y Gaer yw amgueddfa a llyfrgell nodedig Aberhonddu sydd wedi agor ei drysau i ddarpar weithwyr gofal y dyfodol gyda’i mannau dysgu yn yr 21ain ganrif, fel ffordd o wneud addysg yn fwy gweladwy a hygyrch i’r gymuned.
Mae ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael eu darparu yn Y Gaer. Hefyd yn cael eu cynnal yn y Gaer mae’r caffi sy’n cael ei redeg gan y Coleg ac adran llyfrgell benodol y Coleg i fyfyrwyr.
Y CWTCH
Cattle Market Car Park
Heol Gouesnou
Brecon LD3 7BA
Y Gaer
Glamorgan St
Brecon
LD3 7DW