Diwrnodau Canlyniadau 2024

#DiwrnodCanlyniadau2024 – Rhannwch eich llwyddiant gyda ni trwy ein tagio ar sosialau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Cyhoeddir canlyniadau Lefel A a chanlyniadau TGAU ar ddydd Iau yn olynol ym mis Awst. Byddwn yn cysylltu â chi cyn diwrnod y canlyniadau gyda chyfarwyddiadau ar sut i gasglu eich canlyniadau.

Dydd Iau, 15 Awst 2024

Diwrnod Canlyniadau Lefel A (Lefel 3)

Byddwn ar agor am 8am i gyhoeddi canlyniadau wyneb yn wyneb, ar holl brif safleoedd y Coleg (Coleg Afan, Coleg Castell-nedd, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd).

Mae eich tiwtoriaid yn awyddus iawn i ddathlu eich llwyddiant gyda chi yn bersonol

I’r rhai na allant fynychu’r Coleg, bydd y canlyniadau ar gael ar-lein trwy’r Hyb Dysgwyr o 12pm hanner dydd.

Ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth a chyngor, bydd staff ar gael i chi siarad â nhw o 15 Awst, yn bersonol neu ar-lein.

Dydd Iau, 24 Awst 2024

Diwrnod Canlyniadau TGAU (Lefel 2)

Cyhoeddir canlyniadau yn nerbynfeydd y prif safle (Coleg Afan, Coleg Castell-nedd, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd).

Mae eich tiwtoriaid yn awyddus iawn i ddathlu eich llwyddiant gyda chi yn bersonol.

I’r rhai na allant fynychu’r Coleg, bydd y canlyniadau ar gael ar-lein trwy’r Hyb Dysgwyr o 12pm hanner dydd.
Ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth a chyngor, bydd staff ar gael i chi siarad â nhw o 22 Awst, yn bersonol neu ar-lein.