Cymraeg yn y Coleg
Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos Grŵp Colegau NPTC. Mae’r Coleg yn ymwybodol o sut y gall dwyieithrwydd fod o fudd i chi ym maes addysg, yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae’r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o’n meysydd pwnc, gan roi’r cyfle a’r opsiwn i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu fel rhan o’ch lleoliad gwaith.
Rydym yma i’ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol Cymraeg ei iaith, os hoffech astudio yn y Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau ar gyfer eich cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein coleg … chi piau’r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg er mwyn rhoi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol.
Os nad ydych yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond am gynnal eich sgiliau yn y Gymraeg, peidiwch â phoeni, rydym yn trefnu llawer o weithgareddau llawn hwyl drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio’ch Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith … Peidiwch â bod yn swil – Siaradwch Gymraeg!
Mae’r symbol hwn ar y tudalennau cyrsiau yn dangos bod rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau yn gallu cael eu cyflawni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltwch â: cymraeg@nptcgroup.ac.uk
Welsh at the College
Welsh language and culture is an important part of the ethos of NPTC Group of Colleges. The college is aware of how being bilingual can benefit you in education, the workplace and in everyday life. Provision is expanding across many of our subject areas, giving you the opportunity and choice to study through the medium of Welsh or bilingually in the classroom or on your work placement.
We are here to support you should you wish to have a Welsh-speaking personal tutor, study in Welsh, complete your assignments in Welsh, sit your exams in Welsh or receive your course materials and resources in Welsh whilst studying with us at the college … the choice is yours. We will also encourage you as a non-Welsh speaker or Welsh learner to develop your Welsh language skills, giving you better employment opportunities in the future.
If you don’t wish to study through the medium of Welsh but want to maintain your Welsh language skills, don’t worry we have lots of fun activities throughout the year that will give you the opportunity to use your Welsh whatever your language level … Don’t be shy – Siarad Cymraeg!
This symbol on course pages indicates that some courses, modules or aspects of courses can be undertaken through the medium of Welsh
For more information, contact: cymraeg@nptcgroup.ac.uk