RYDYM YN CYNNIG

Lefel 3 sy’n cynnwys y modiwlau canlynol:
  • Systemau cyfreithiol cyfnod sylfaen
  • Camwedd cyfnod sylfaen
  • Cytundeb cyfnod sylfaen
  • Cyflwyniad cyfnod sylfaen i eiddo a chleient preifat
  • Sgiliau proffesiynol a chyfreithiol y cyfnod sylfaen

Mae’r cymhwyster hwn yn cymryd 18 mis i’w gwblhau.

Lefel 5, sy’n cynnwys y modiwlau canlynol:
  • Cam uwch datrys anghydfod
  • Cyfraith ac ymarfer troseddol cam uwch
  • Eiddo cam uwch a thrawsgludo
  • Sgiliau proffesiynol a chyfreithiol cam uwch
  • Teulu/ewyllysiau/busnes a chyflogaeth cam uwch – Dewisol : Rhaid i’r dysgwr ddewis un modiwl yn ychwanegol at y modiwlau uchod.

Mae’r cymhwyster hwn yn cymryd 24 mis i’w gwblhau.

Gofynion Mynediad:
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio yng Nghymru, am o leiaf 16 awr yr wythnos trwy gydol eu prentisiaeth.
  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i ymuno â phrentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.
  • Bydd angen i ddysgwyr ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol: Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol, oni bai bod y dysgwr wedi ennill cymwysterau yn y pynciau hyn ar Lefel 2.

Y corff dyfarnu ar gyfer y Brentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yw CILEX (Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol)

Byddwch yn ymgymryd â Chymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ) trwy gofrestru naill ai ar brentisiaethau Lefel 3 neu 5.

Beth fydd y cymhwyster yn arwain ato?

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau CPQ Lefel 3 yn dod yn Baragyfreithiol/Triniwr Achos/Cynorthwyydd Cyfreithiol ac efallai y byddant am symud ymlaen i CPQ Lefel 5. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau CPQ Lefel 5 yn dod yn Baragyfreithiol Uwch/Uwch Baragyfreithiol/Paragyfreithiol Profiadol.

Gwybodaeth Ychwanegol
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Prentisiaethau Cymraeg yn y Gwasanaethau Cyfreithiol (cilex.org.uk)
  • Bydd angen i dysgwyr ddod yn aelod o CILEX, trwy gofrestru yma – CILEX > myCILEX > Mynediad i’r Safle  Cofrestrwch isod.

CILEX > myCILEX > Site Access > Registration (cilexgroup.org.uk)