Mae tîm Gweithrediadau Byd-eang Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod yn gweithio gyda’r partneriaid a’r sefydliadau canlynol yn y Caribî ac America Ladin.
![](https://www.nptcgroup.ac.uk/wp-content/uploads/2022/09/ETUK_logo_FC-1024x585.jpg)
Mae Education Together UK yn Gonsortiwm Coleg y Deyrnas Unedig ar gyfer America Ladin a’r Caribî. Grŵp Colegau NPTC yw arweinydd y consortiwm ac maent yn cydweithio â Warwickshire College Group a Choleg Glasgow.
Mae’r Consortiwm yn hwyluso symudedd myfyrwyr i ac o’r DU, gan weithio i alluogi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen cyfnewid diwylliannol. Felly, darparu profiadau addysgol bythgofiadwy trwy gysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol a chyfoedion i ehangu eu gorwelion diwylliannol. Mae’r Consortiwm yn ymdrechu i hyrwyddo profiadau dysgu newydd a sgiliau gwerthfawr i helpu myfyrwyr gyda’u hastudiaethau a’u haddysg yn y dyfodol.