EWCH YN BYD-EANG … GYDA GOFAL MEWN CYNHYRCHU CYFRYNGAU CREADIGOL

Mae’r sector cyfryngau a chyhoeddi wedi bod yn ddiwydiant sy’n tyfu dros y degawd diwethaf oherwydd effaith technolegau newydd.

Mae astudio Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol yn gyfle gwych i ddysgu am y cyfryngau o safbwynt ymarferol a damcaniaethol. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i roi heriau i chi feddwl yn greadigol ac i ddatblygu eich galluoedd technegol.

Byddwch yn dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddilyn eich nodau a byddwch yn gweithio tuag at yrfa heriol a gwerth chweil yn y dyfodol yn y diwydiant cyfryngau a thu hwnt.

Mae gan staff Grŵp Colegau NTPC gyfoeth o wybodaeth a byddant yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd gyda’u harweiniad arbenigol.

Beth fydda i’n ei astudio?

Coffestrwch ar gwrs galwedigaethol Cyfryngau Creadigol a byddwch yn dysgu ysgrifennu, cyfarwyddo, saethu, cymysgu a golygu ffilmiau, fideos cerddoriaeth, hysbysebion a rhaglenni dogfen gan ddefnyddio camerâu digidol ac ystafelloedd golygu digidol. Mae’r elfen ysgrifenedig yn bennaf trwy’ch blog wythnosol a’ch byrddau stori.

Mae Astudiaethau Ffilm yn astudiaeth fanwl o ffilm fel ffurf ar gelf o ran ei storïau gweledol. Nid yn unig y bydd yn newid y ffordd rydych chi’n gwylio ffilm, ond yn bwysicach fyth, bydd yn eich herio i feddwl mewn ffyrdd newydd a chwestiynu neu newid eich persbectif ar lu o faterion gan gynnwys cynrychiolaeth o hil neu ryw. Mae astudio ffilm yn caniatáu ichi ddeall materion a datblygiadau pwysig o fewn hanes, cymdeithas a diwylliant.

Beth allai hyn arwain ato?

Gall Diploma Lefel 3, sy’n cyfateb i 3 Lefel A, fynd â chi i’r brifysgol i astudio pynciau addysg uwch fel: animeiddio, cynhyrchu teledu a ffilm, ffotograffiaeth a delweddu digidol, astudiaethau cyfryngau, dylunio gemau fideo, cyhoeddi, newyddiaduraeth, cyfryngau hysbysebu a rhyngweithiol.

Pa yrfaoedd y gallwn i anelu atynt?

Mae cyflogaeth yn y diwydiannau sgrin wedi tyfu dros 20% ers 2009 a bydd yn sylweddol fwy na’r cynnydd ledled yr economi o 3% os cyflawnir y prinder sgiliau yn y maes hwn. Gall llwybrau gyrfa i fyfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol gynnwys llwybrau ymarferol fel Gwneud Ffilm, Cyfarwyddo, Cynhyrchu a Golygu ond mae’r cymhwyster hefyd yn caniatáu ichi symud i lwybrau mwy damcaniaethol fel Beirniadaeth Ffilm, Newyddiaduraeth, Addysgu ac Addysg.